Hafan > Gwirfoddoli
Gwirfoddoli
Oedolion sy'n gwirfoddoli
Nid ar gyfer merched yn unig y mae Girlguiding.
Diolch i ymroddiad a chefnogaeth dros 100,000 o wirfoddolwyr anhygoel, rydym yn weithgar ym mhob rhan o'r DU, gan roi cyfle i ferched a menywod ifanc fod yn nhw eu hunain, cael hwyl, creu cyfeillgarwch gwych, dysgu sgiliau bywyd gwerthfawr a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w bywydau a'u cymunedau.
Mae amryw o rolau gwirfoddol yn y mudiad. Mae nifer o wirfoddolwyr yn neilltuo amser i fod yn Arweinwyr neu Arweinwyr Cynorthwyol a chael gweld merched yn mwynhau digwyddiadau a gweithgareddau y maent wedi'u trefnu. Mae gwirfoddolwyr eraill yn ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol, neu'n helpu gyda’r gwaith gyrru neu gynnal a chadw yn achlysurol.
Mae gan bob uned Rainbow, Brownie,Guide a Ranger o leiaf un Arweinydd sydd sydd wedi cwblhau Cymhwyster Arweinyddiaeth Girlguiding . Merched 18 oed neu hŷn yw’r Arweinwyr. Mae ganddynt gyfrifoldeb cyffredinol am yr uned, er y bydd y tasgau'n cael eu rhannu rhwng tîm bach o arweinwyr cynorthwyol a chynorthwywyr.
Mae cynorthwywyr yn hanfodol i allu parhau i redeg yr unedau. Maent yn helpu naill ai ar system rota, neu pa bryd bynnag y gallant, gan roi help llaw ychwanegol i'r Arweinwyr. Mae gan gynorthwywyr gwirfoddol yr hyblygrwydd a'r rhyddid i neilltuo faint bynnag o amser ag y maen nhw'n gallu.
Rydym yn cymryd diogelwch y merched a’r oedolion sy’n gwirfoddoli gyda ni o ddifrif, felly mae pob un sy’n 18+ oed ac sy’n helpu gyda chyfarfod wythnosol neu ddigwyddiad arbennig yn gorfod cwblhau sesiwn ar-lein sylfaenol, Safe Space. Mae'n bosibl y bydd angen rhagor o hyfforddiant gan ddibynnu ar rôl yr unigolyn, e.e. rhagor o sesiynau Safe Space, hyfforddiant cymorth cyntaf, ymwybyddiaeth o ddiogelu digidol a gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Os hoffech ymuno â ni ar Ynys Môn fel darpar Arweinydd neu Gynorthwyydd ceir mwy o wybodaeth am y cyfleoedd sydd ar gael ar wefan Girlguiding UK yna cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r system ddiogel Join Us.
Being a Leader: About the Sections
Girlguiding Inspire (18-30)
Rydym yn sylweddoli efallai na fydd oedolion iau sy'n gwirfoddoli yn gallu ymrwymo i gyfarfodydd wythnosol rheolaidd, neu efallai’n dymuno cymryd rhan mewn digwyddiadau y tu hwnt i Ynys Môn.
Mae llwyth o gyfleoedd ar gael i aelodau rhwng 18 a 30 oed ddewis ohonynt. Maent yn ffitio i mewn i saith llwybr â thema. Gallwch ddilyn un llwybr penodol neu, gan ein bod ni i gyd yn wahanol, gallwch ddewis gwahanol agweddau i greu llwybr newydd sy’n unigryw i chi. Yn ogystal â dilyn y saith llwybr, gallwch ddysgu ac ennill gwobrau. Mae yna amrywiaeth o gyfleoedd hwyliog i wneud ffrindiau newydd a dal i fyny â hen ffrindiau, pan fyddwch chi eisiau cymdeithasu.
Beth bynnag y penderfynwch ei wneud, byddwch yn ymuno â chymuned o ferched sy’n dewis eu llwybr eu hunain ac yn llunio'r dyfodol i bob un ohonom.
Darganfyddwch ragor am y cyfleoedd sydd ar gael ar wefan Girlguiding UK, a chysylltwch â ni gan ddefnyddio'r system ddiogel, Ymuno â Ni.
Trefoil Guild
Mae gennym gangen Trefoil Guild ar Ynys Môn sydd ar agor i unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn. Mae yna raglen ddiddorol o weithgareddau trwy gydol y flwyddyn.
Mae’r Trefoil Guild yn gangen o Girlguiding ac mae'r aelodau'n cytuno i gefnogi'r ethos arweiniol - gan gynnwys yr addewid i helpu pobl eraill. Yn y Trefoil Guild, mae menywod a dynion dros 18 oed yn gwneud ffrindiau newydd, teithio, archwilio, gwasanaethu eu cymunedau a helpu’r Geidiaid (a’r Sgowtiaid) i ffynnu.
Am ragor o wybodaeth ac i ddarganfod mwy, gweler eu gwefan.
