Ymgyrch bostio’r Gronfa Ymateb Cymunedol – Haf 2020
Cawsom grant gan Gronfa Ymateb Gwasanaethau Gwirfoddol a Chymunedol Ynys Môn trwy Medrwn Môn i dalu am ymgyrch bostio yn yr haf i'n holl aelodau ar Ynys Môn - o'r Rainbow ieuengaf i'n gwirfoddolwr hynaf. Er bod yna ddigon o wybodaeth ar-lein, mae’n dal i fod yn braf i dderbyn amlen yn y post.
Fe wnaethom anfon llythyr yn egluro'r sefyllfa bresennol ynghylch cyfarfodydd wyneb yn wyneb, a’n awgrymu pa weithgareddau sy'n addas ar gyfer pob grŵp oedran i helpu iechyd meddwl a lles ein haelodau.
Rydym yn ddiolchgar i Medrwn Môn a'n holl wirfoddolwyr anhygoel am alluogi'r prosiect hwn.
English