Covid-19
Ni ellir cynnal unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb ar hyn o bryd. Byddant ond yn dechrau eto pan fydd Girlguiding yn caniatáu hynny yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, ac ar ôl i asesiadau risg gael eu cwblhau ar adeiladau ac unedau.
Fodd bynnag, mae Girlguiding wedi parhau i fod yn weithgar mewn ffyrdd newydd a dychmygus dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae llawer o arweinwyr wedi bod yn anfon gweithgareddau trwy'r post neu e-bost er mwyn i ferched eu gwneud gartref, ac mae rhai o'n hunedau'n cyfarfod ar-lein. Mae 'Anturiaethau yn y Cartref' ar gael am ddim i bawb ar wefan Girlguiding UK.
Yma ar Ynys Môn, fe wnaethom ni gynnal Parti Pyjamas Rhithiol ym mis Tachwedd 2020 ac yn ddiweddar, lansiwyd Uned Geidiaid a Rangers (Rhithiol) Ynys Môn sy'n cwrdd ar-lein. Rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Newyddion.
English